Rydyn yn darparu gwasanaeth cefnogi sy'n ymwneud a thai a thenantiaeth. Nod yr amcanion ydy helpu pobl fregus i fyw mor annibynnol â phosib, trwy roi'r cyfle iddynt wella'u hansawdd bywyd trwy fyw'n fwy annibynnol. Rydyn yn rhoi cymorth i bobl fyw yn eu cartrefi eu hun neu mewn unrhyw fath arall o lety; eu helpu i deimlo'n ddiogel a'u galluogi i ymgysylltu a'u cymuned leol.