Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Gwasanaeth Noddfa Abertawe – Castell-nedd Port Talbot

Mae’r Noddfa’n wasanaeth allan o oriau sy’n cynnig cefnogaeth person-ganolog, sy’n ymarferol, therapiwtig a chyfannol, i unigolion sydd mewn perygl o argyfyngau iechyd meddwl. Mae ein cenhadaeth yn ehangu y tu hwnt i ymyrraeth yn unig; ymdrechwn i ddarparu noddfa ble gall unigolion ddod o hyd i gysur a chefnogaeth yn ystod yr oriau pan maent eu hangen. Trwy gynnig gofod diogel y tu allan i oriau traddodiadol, anelwn i leihau y risg o niwed i unigolion yn eu cartrefi. Mae ein tîm ymroddedig yn cynnal asesiadau diogelwch a llesiant ar gyfer pob unigiolyn cyn iddynt ddychwelyd adref, gan sicrhau eu bod yn derbyn y lefel briodol o ofal a chefnogaeth, ac yn galluogi atgyfeiriadau i wasanaethau eraill yn ôl yr angen.