Barcud

Darparwyd gan
Barcud

Mae Barcud yn gymdeithas dai ddi-elw. Mae pob ceiniog yn cael ei ail-fuddsoddi i ddarparu cartrefi o'r radd flaenaf yn ein cymunedau ar draws Powys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a sir Benfro.

Trwy ddod ag arbenigedd, profiad a gweledigaeth ynghyd, Barcud yw asgwrn cefn darparu tai fforddiadwy i’w rhentu, eu rhentu i’w perchen a’u prynu yng nghanolbarth Cymru.

Yn 2018, cyhoeddodd Byrddau gwirfoddol Tai Ceredigion a Tai Canolbarth Cymru eu bod wedi dechrau archwilio’r posibilrwydd y gallai’r ddau landlord gydweithio’n agosach â’i gilydd.

Drwy wneud hynny, mae’r sefydliad newydd mewn sefyllfa i ddatblygu mwy fyth o gartrefi fforddiadwy a darparu cyfleoedd mwy sylweddol o ran cyflogaeth a hyfforddiant i’w staff a’i denantiaid yn rhanbarth y gorllewin a’r canolbarth. Mae’r uno yn cynnig cyfleoedd newydd cyffrous i denantiaid, preswylwyr, gweithwyr a busnesau lleol.

Amseroedd agor

Dydd Llun 8am-6pm Dydd Mawrth 8am-6pm Mercher 8am-6pm dydd Iau 8am-6pm Gwener 8am-6pm dydd Sadwrn Ar gau Sul Ar gau

Dewisiadau Mynediad

Galw heibio

Hunangyfeirio

Atgyfeiriad gan asiantaeth

Trwy drefnu apwyntiad yn unig