Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Prosiect y Cei Gwasanaeth Byw â Chefnogaeth

Mae Prosiect y Cei yn Brosiect cefnogaeth dwys 4 gwely sy’n cael ei alw yn Llys Maes Teg ym Maes Glas ger Treffynnon. Mae’r Prosiect hwn yn cartrefu dynion a merched sengl digartref gydag anghenion cymhleth o 16 oed. Mae Llys Maes Teg yn cynnig llety mewn ystafelloedd sengl o safon uchel yn ogystal â chyfleusterau cymunedol fel lolfa i Breswylwyr, cegin, ystafell brosiectau a gardd. Ym Mhrosiect y Cei mae 12 o fflatiau hunangynhaliol wedi eu gwasgaru trwy Sir y Fflint i gyd i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sydd wedi dangos ffordd annibynnol o fyw. Rydym yn darparu cefnogaeth 24 awr y dydd mewn adeiladau diogel a’r cyfle i dorri’n rhydd o ffordd o fyw ddigartref.