Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Y Lleng Brydeinig Frenhinol Gwasanaeth Nyrsys Admiral

Mae Nyrsys Admiral y Lleng Brydeinig Frenhinol yn cynnig cymorth , gwybodaeth a chyngor arbenigol I ofalwyr pobl sydd â dementia.

Nyrsys cofresredig sy'n arbenigo mewn dementia yw Nyrsys Admiral. Nod y gwasanaeth yw helpu gofalwyr teuluol I feithrin y sgiliau angenrheidiol er mwyn cynorthwyo gyda gofal dementia, hyrwyddo ymagweddau cadarnhaol tuag at fyw'n dda gyda dementia a gwella ansawdd bywyd.

Datblygwyd y gwasanaeth mewn partneriaeth â Dementia UK, elusen genedlaethol sy'n hyrwyddo ac sy'm datblygu Nyrsys Admiral.