Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

The Wallich - Gwasanaeth Datrys Gwrthdaro Gogledd-Ddwyrain Cymru Wrecsam a Sir y Fflint

Mae Gwasanaeth Datrys Gwrthdaro Gogledd-Ddwyrain Cymru Wrecsam a Sir y Fflint yn mynd i'r afael ag un o achosion sylfaenol digartrefedd drwy weithio gyda phobl mewn gwrthdaro sy'n bygwth eu llety, er enghraifft, anghydfod rhwng aelodau o'r teulu, anghydfod rhwng landlordiaid a thenantiaid, ac anghydfod rhwng cymdogion.

Defnyddir cyfryngu i helpu pobl i ddatrys gwrthdaro drwy chwilio am atebion sy'n dderbyniol i bawb. Rydym yn darparu gwasanaeth cyfrinachol di-dâl i unrhyw un yn y sir y mae gwrthdaro'n effeithio ar ei sefyllfa gartref.