Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

The Windfall Centre for Children and Families

Lleoliad

Cyfeiriad post

Ithon Road Llandrindod Wells LD1

Cyswllt

01597 829346

Mae’r Windfall Centre yn gorff elusennol. Rydym wedi ymsefydlu yn Llandrindod yn y canolbarth, gan wasanaethu Cwm Tawe a’r gorllewin. Mae gan ein tîm o therapyddion brofiad ac arbenigedd ym maes iechyd a datblygiad meddyliol plant a phobl ifanc, gan gynnwys Therapi Chwarae, Seicotherapi Celf, Cynghori a gwaith iachaol â theuluoedd.
Mae tîm Clinigol Windfall yn darparu cymorth iachaol, hefyd, ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n wynebu amrywiaeth eang o heriau, a all gynnwys ymddygiadau sy’n peri pryder, trafferthion ymlyniaeth a thrawma datblygiadol. Trwy waith pedwar aelod o’r Gymdeithas Therapyddion Chwarae Brydeinig (BAPT), pedwar Therapydd Mabol, Seicotherapydd Plant a Llencyndod, a Therapydd Celf, gallwn gynnig amrywiaeth o raglenni iachaol wedi’u seilio ar dystiolaeth, ar gyfer anghenion unigol plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.