Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Dysgu Oedolion Yn Y Gymuned Yn Nhorfaen

Lleoliad

Cyswllt

01633 647647

Gall dysgu ysbrydoli, gwella hyder a newid bywydau.

Mae gan Ddysgu Cymunedol i Oedolion Torfaen amrywiaeth eang o gyrsiau, gweithdai a dosbarthiadau rhan amser gan gynnwys celf a chrefft, coginio, cerddoriaeth, iechyd, dysgu teuluol, ffotograffiaeth a chyfryngau digidol. Gallech hefyd wella’ch darllen, ysgrifennu a mathemateg, dysgu sut i ddefnyddio cyfrifiadur, siarad iaith newydd, neu hyd yn oed cael cymhwyster i’ch helpu chi i gael gwaith.

Beth bynnag y byddwch yn penderfynu gwneud, rydym yn gobeithio y byddwch chi’n mwynhau eich amser gyda ni ac rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i un o’n Canolfannau Dysgu Cymunedol i Oedolion cyn bo hir.