Mae Cysylltwyr Cymunedol yn cefnogi ac yn galluogi pobl i ddod o hyd i weithgareddau, grwpiau a rhwydweithiau addas sy'n uno pobl y gallai fod ganddynt ddiddordebau tebyg. Mae hyn yn helpu i annog cyfranogiad ac ymgysylltu yn y gymuned ac adeiladu hunan hyder, gwydnwch a lles.
Cysylltwyr Cymunedol:
- Hyrwyddo lles, annibyniaeth a bywydau llawn
- Gweithio i leihau ynysu cymdeithasol ac unigrwydd
- Galluogi pobl a’u cefnogi i deimlo’n rhan o’u cymuned neu fod yn rhan o’r gymuned honno
- Annog, hwyluso a chefnogi grwpiau a gweithgareddau newydd ledled Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Mae gan y tîm ystod o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn lleol ac mae mewn cysylltiad â nifer o grwpiau lleol fel crefftau, boreau coffi, garddio, clybiau cinio, crochenwaith a grwpiau cerdded.