Rydym yn rhedeg prosiect cymunedol bach ar y stryd fawr yng Nghlydach. Mae'n gangen o Fanc Bwyd Abertawe. Hefyd trefnir Siop Siarad i ddysgwyr (wyneb yn wyneb ac ar-lein), oedfa mewn cartref henoed pob mis, a Chaffi Trwsio unwaith y mis yn Neuadd y Nant. Mae un o'n Ymddiriedolwyr yn rhedeg siop elusen yn Heol Hebron fel gwasanaeth i'r cymuned ac i godi arian tuag at achosion da lleol.