Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Tŷ Hapus - Canolfan Deuluol Caerfyrddin

Mae Canolfan Deuluol Tŷ Hapus - Caerfyrddin wedi’i lleoli ar stad Neuadd y Parc, gogledd Caerfyrddin ac mae’n cefnogi teuluoedd â phlant ifanc o Gaerfyrddin a’r cyffiniau. Mae Canolfan Deulu Caerfyrddin yn darparu cyfleoedd a phrofiadau gwerthfawr megis, grwpiau Babanod a Phlant Bach, sesiynau Iaith a Chwarae, Tylino Babanod, sesiynau awyr agored a garddio, cyrsiau a gweithdai Rhianta ac addysgiadol, a theithiau a diwrnodau allan yn y gymuned. Cefnogi teuluoedd i wella eu bywydau trwy addysg a rhwydweithiau cymorth, mewn amgylchedd diogel, croesawgar a meithringar. Gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd, grymuso unigolion a chryfhau'r cymunedau y maent yn byw ynddynt.