Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn brosiect gwirfoddol, lle gallwn gynnig help, cefnogaeth ac arweiniad 1-2-1 ar chwilio am swyddi, CV, ffurflenni cais, sgiliau cyfweld a hyfforddiant. I fod yn gymwys mae'n rhaid i chi fod yn byw ym Mro Morgannwg, yn 20+ oed ac nid mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Gallwn gynnig hyfforddiant a chefnogaeth i'ch helpu i gael cyflogaeth gynaliadwy. Rydym yn cynnig cymorth a chyllid ar gyfer gofal plant i helpu rhieni i ddychwelyd i'r gwaith.