Mae Cymorth lle bo’r Angen Iechyd Meddwl Bro Morgannwg yn wasanaeth allgymorth sy’n cynnig cefnogaeth sy’n ymwneud â thenantiaeth i unigolion sydd ag angenion iechyd meddwl sy’n byw yn y gymuned. Rydym wedi ein lleoli yn Y Barri, ond yn gweithio dros Y Fro i gyd, o Benarth a Lecwydd i Aberogwr.
Cynigwn gefnogaeth person-ganolog sy’n ffocysu ar helpu unigolion i ddod yn fwy annibynnol a hunangynhaliol, i gynnal eu tenantiaeth, i osgoi cael eu troi allan, ac i atal derbyniadau i’r ysbyty os nad oes angen. Anogwn unigiolion i deimlo’n rhan o’r gymuned leol a’r gymuned ehangach, gyda’r nod o leihau unigrwydd, ynysiad, a digartrefedd.
Darperir y prosiect cefnogaeth o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9yb a 5yp. Gall hyd newid gan fod yn hyblyg yn unol â’ch anghenion.