Mae’r Gwasanaeth Cyngor i Filwyr yn darparu cymorth a chyngor i aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog o fewn Bro Morgannwg. Mae’r gwasanaeth yn cwmpasu amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys Tai, Treth y Cyngor, Budd-daliadau, Cyllid, Cyflogaeth a Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Mae llawer o sefydliadau’n cefnogi cymuned y lluoedd arfog, felly gall dod o hyd i’r un cywir fod yn gymhleth weithiau. Bydd Gwasanaeth Cyngor i Filwyr Bro Morgannwg yn gwneud y broses mor hawdd â phosibl. Byddwn yn eich cyfeirio at y sefydliad mwyaf priodol i chi gael y cymorth sydd ei angen arnoch. P’un a ydych yn gwasanaethu ar hyn o bryd yn y lluoedd arfog, neu wedi gwasanaethu yn y gorffennol, gallwch chi a’ch teulu gael mynediad at ein gwasanaeth am gyngor a chymorth.