Mae Gwerth yn y Fro yn rhoi cyfleoedd i drigolion y Fro wirfoddoli i fudiadau lleol ac yn eu tro yn eu gwobrwyo am eu hamser.
Lansiwyd gwefan newydd yn Hydref 2022 sef siop un stop ar gyfer gwirfoddolwyr a sefydliadau partner. Mae'n rhoi manylion cyfleoedd gwirfoddoli, yn caniatáu i sefydliadau recriwtio gwirfoddolwyr ac yn rhoi'r dewis i wirfoddolwyr gyfnewid gwobrau am eu hamser.
Gall gwobrau fod yn unrhyw beth o baned o goffi a gacen i driniaeth harddwch neu barsel o nwyddau ymolchi. Economi gylchol yw Gwerth yn y Fro. Mae'r holl gyfleoedd a'r gwobrau gwirfoddoli wedi eu lleoli ym Mro Morgannwg. Mae gwirfoddoli yn brofiad cyfannol sydd hefyd yn gallu bod o fudd i iechyd, lles, yngallu lleihau arwahanrwydd cymdeithasol a gwella sgiliau.