Mae Vision Support yn elusen ranbarthol a sefydlwyd ym 1876. Rydym bellach yn gweithredu mewn sawl rhan o Swydd Gaer a Gogledd-ddwyrain Cymru gan ddarparu cymorth a gwasanaethau lleol o fewn y gymuned. Rydym yn bodoli i gefnogi pobl ag amhariad ar y golwg a chodi ymwybyddiaeth o'u hanghenion. Mae popeth a wnawn wedi'i gyfeirio'n ymwybodol at ein helpu i gyflawni ein Cenhadaeth: Cynyddu annibyniaeth a lles, a lleihau ynysigrwydd cymdeithasol ar gyfer yr holl bobl ag amhariad ar y golwg ar draws Swydd Gaer a Gogledd-ddwyrain Cymru.
Yn Swydd Gaer, Halton a Gogledd Cymru mae Vision Support yn cynnig y canlynol:
Ymwelwyr Cartref
Gwasanaeth Gwybodaeth Gymunedol
Cyngor ar fyw bob dydd a chymhorthion golwg gwan
Cyngor Hawliau Lles/Lles Ariannol
Hyfforddiant Technoleg Hygyrch
Grwpiau ymgyrchu
Grwpiau cymdeithasol a gweithgareddau
Cyfeillio dros y Ffôn
Cyfleoedd gwirfoddoli