Mae WCVA yn gweithio'n agos gyda chanolfannau gwirfoddoli a mudiadau sy'n cynnwys gwirfoddolwyr, i godi proffil gwirfoddoli a gwella profiad gwirfoddolwyr. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i fanteisio i'r eithaf ar botensial gwirfoddoli yng Nghymru.
Gyda'i gilydd mae WCVA, Cynghorau Gwirfoddol Sirol a chanolfannau gwirfoddoli yn darparu rhaglen integredig o gymorth ar gyfer gwirfoddoli i helpu mwy o bobl i fynd ati i wirfoddoli (er budd y gymuned a'u datblygiad personol eu hunain), a helpu mudiadau sy'n cynnwys gwirfoddolwyr i recriwtio a chefnogi eu gwirfoddolwyr.