Mae llinell gymorth WAMES yn darparu gwybodaeth am ystod eang o bynciau sy'n effeithio ar bobl sy'n byw gyda ME a CFS, a rhai sy'n gofalu amdanynt neu'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer. Rydym hefyd yn cyfeirio at sefydliadau eraill i gael gwybodaeth a / neu gyngor pellach.
Mae ME yn gyflwr niwrolegol anwadal sy’n effeithio ar yr ymennydd ar lefel gorfforol, meddyliol ac emosiynol. Mae ymchwil wedi dod o hyd i dystiolaeth o ddiffyg genynnol sy’n effeithio ar nifer o systemau’r corff, yn cynnwys y system imiwnedd, y system niwroendocrin, y gyfundrefn nerfol awtonomig a’r cyhyrau. Gall gael effaith dymor hir ac achosi analluogrwydd mewn pobl o bob oed, rhyw a grŵp ethnig. Mae gan tua 13,000 o bobl yng Nghymru y cyflwr – mae 10% yn blant dan 16 oed.