WAY yw’r unig elusen genedlaethol yn y Deyrnas Unedig i ddynion a menywod a oedd yn 50 oed neu’n iau pan fu farw eu partner. Mae’n grŵp cymorth cymheiriaid sy’n cael ei redeg gan rwydwaith o wirfoddolwyr sydd wedi dioddef profedigaeth pan oeddent yn ifanc eu hunain, ac felly’n deall yn union beth mae aelodau eraill yn mynd drwyddo.
Ein nod yw cynnig cymorth emosiynol ac ymarferol rhwng cymheiriaid i ddynion a menywod ifanc mewn profedigaeth – yn briod neu beidio, gyda phlant neu heb, beth bynnag eu cyfeiriadedd rhywiol – wrth iddynt ymaddasu i fywyd ar ôl marwolaeth eu partner.