Gweithdy i bobl sy'n profi heriau iechyd meddwl ac i'r rhai sy'n poeni amdanyn nhw.
Mae'n hyrwyddo dull strwythuredig o ddatblygu ystod o strategaethau i gefnogi hunanreolaeth wrth wella o drallod.
Mae WRAP® (Cynllun Gweithredu Adfer Lles) yn gynllun sydd wedi’i ddylunio a’i reoli gennych chi ac sydd wedi’i gynllunio i:
• Leihau ac atal teimladau ac ymddygiadau ymwthiol neu gythryblus
• Cynyddu grymuso personol
• Gwella ansawdd bywyd
• Eich cynorthwyo i gyflawni eich nodau bywyd a'ch breuddwydion eich hun.
Mae pobl yn gweld bod gwneud WRAP gyda chyfoedion yn gallu rhoi llawer o syniadau ar sut y gallwch chi gynyddu eich lles a chael digon o gyfleoedd i drafod syniadau gyda phobl o’r un anian. Mae WRAP yn addas i bawb.