Mae’r Gwasanaeth Cyswllt Iechyd Meddwl yn cefnogi unigolion ag anghenion iechyd meddwl a / neu ddefnyddio sylweddau sydd yn ddigartref ar hyn o bryd neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, sydd yn byw mewn llety dros dro neu wedi symyd i lety parhaol. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â Thîm Opsiynau Tai Cyngor Bwrdeistref Wrecsam a Swyddogion Cymorth Tai. Cefnogwn ein cleientiaid â’r cyflyrau uchod i’w helpu i’w galluogi i sicrhau llety parhaol ac i fyw’n annibynnol.
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfannol, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sy’n anelu at alluogi’r cleient i arwain taith hunangyfeiriedig. Rydym yn cyflawni’r uchod drwy gydweithio mewn partneriaeth a chydweithrediad â gwasanaethau / prosiectau Adferiad yn ogystal â gwasanaethau statudol a thrydydd sector yng nghymuned Wrecsam. Rydym hefyd yn darparu cymorth sy’n gysylltiedig â thai a lles, megis ymyriadau argyfwng, ymyriadau byr ac ymyriadau therapiwtig sy’n canolbwyntio ar iechyd a lles.