Mae Cefnogaeth Tenantiaeth Allgymorth Wrecsam (WOTS) yn wasanaeth allgymorth sy’n cynnig cefnogaeth sy’n ymwneud â thenantiaeth i unigolion sydd ag anghenion iechyd meddwl ac / neu ddefnyddio sylweddau sydd yn byw’n annibynnol yn y gymuned. Mae WOTS yn helpu cadw’r unigolion yn y gymuned pan maent yn cael amser caled. Rydym yn helpu i gynnal eu tenantiaeth, i osgoi cael eu troi allan, ac yn darparu cefnogaeth i osgoi derbyniadau i’r ysbyty os nad ydynt yn angenrheidiol. Rydym yn annog ac yn ymgorffori ein cefnogaeth writh helpu’r unigolion i deimlo’n rhan o’r gymuned ehangach, gyda’r nod o leihau unigrwydd ac ynysiad.
Mae gennym ymagwedd gyfannol i gefnogi unigolion. Credwm mewn ymagwedd bositif, gyfeillgar sydd ddim yn feirniadol nac yn ragfarnllyd. Ceisiwn symyd ar gyflymder yr unigolyn; arweinir y gefnogaeth ganddynt hwy a’r hyn y maent yn ei adnabod sydd o bwysigrwydd iddynt hwy. Ein nod yw i bob unigolyn gyrraedd eu nod i fyw yn annibynnol gyda hyder ac ymdeimlad o falchder.