Mwynhewch ddull aml-haenog o archwilio a datblygu eich sgiliau ysgrifennu. P’un ai ‘rydych newydd ddechrau ysgrifennu neu eisoes wedi dod o hyd i’ch talent am lunio geiriau, dewch i gael eich ysbrydoli gan agwedd o hanes Cymru a fydd yn llenwi eich gwaith ysgrifenedig gydag angerdd, gan ddod â themau y gorffennol i’r presennol, ac hyd yn oed i’r llwyfan!
Gan weithio gyda Jane Belli a Rose Thorn, artistiaid ACGC, byddwch yn creu gwaith ysgrifenedig ar ffurf sy’n eich siwtio chi. Gallwch archwilio trafod geiriau ysgrifenedig a theithio ar hyd llwybrau creadigol amrywiol mewn sesiynau wythnosol, arlein ac wyneb yn wyneb.
Dros gyfnod o 12 mis byddwch yn cael y cyfle i gynhyrchu gwaith y gallwch fod yn falch ohono; p’un ai ‘rydych am ganolbwyntio ar ysgrifennu, gwaith drama neu am fynd ar ôl mwy o berspectif gweledol, bydd y prosiect hwn yn eich cefnogi chi i ddatblygu eich gwaith, gan gynnig cyfle i rannu’r canlyniadau ar y diwedd.