Yellow Alert yw ymgyrch ymwybyddiaeth hir y clefyd melyn mewn babanod newydd eu geni CLDF. Mae'n hyrwyddo diagnosis cynnar i atgyfeirio’n briodol ar gyfer clefyd yr afu mewn babanod newydd eu geni. Mae’n hanfodol i hyn yn cael ei adnabod a’i drin yn syth. Mae clefyd melyn (y croen yn melynu a’r lliw yn y llygaid) dros gyfnod yn medru bod yn arwydd o glefyd yr afu. Mae’n glefyd yr afu os yw'n parhau am fwy na 2 wythnos mewn babi term llawn a 3 wythnos mewn babi cyn-dymor.
Mae unrhyw ysgarthu sy'n welw ei liw yn medru dynodi clefyd yr afu. Mae ysgarthu iach yn gallu cael eu disgrifio fel lliw mwstard Saesneg mewn babanod sy'n cael eu bwydo gyda photel a’r lliw melyn (fel cennyn pedr) mewn babanod sy'n cael eu bwydo o’r fron. Dylai troeth baban fod yn ddi-liw. Mae troeth lliw arall yn gallu bod yn arwydd posib o glefyd yr afu. Dylid atgyfeirio babanod sydd â chlefyd yr afu dros gyfnod o amser neu ysgarthu/troell sydd yn welw eu lliw am brawf gwaed arbennig ‘split bilirubin.