Mae Canolfan Cynghori Ynys Môn yn darparu cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ac yn ymgyrchu ar faterion mawr sy'n effeithio ar fywydau pobl.
Ein nod yw helpu pawb i ddod o hyd i ffordd ymlaen, pa bynnag broblem y maent yn ei hwynebu.
Rydym yn elusen annibynnol ac yn rhan o rwydwaith Cyngor ar Bopeth ledled Cymru a Lloegr.
Rydym yn cynnig Cyngor a gwybodaeth am ddim, cyfrinachol, annibynnol a diduedd ar bob pwnc. Rydym yn cynnig gwaith achos arbenigol ar Budd-daliadau Lles, Dyled, Arian, Tai, Cyflogaeth, Ynni a materion cyfreithiol gan gynnwys Teuly, Cyflogaeth a Gofal Gymunedol.