Mae Dy Le Di yn elusen sy’n cefnogi teuluoedd hefo plant ar y Sbectrwm Awtistig. Mae’r grŵp Rhieni a Phlant yn cynnig sesiwn hamddenol a thawel i rieni sy’n pryderu am ddatblygiad eu plentyn. Rydym yn darparu amrywiaeth o weithgareddau hwyliog a deniadol ar gyfer plant bach 0-5 oed megis; Amser Stori Synhwyraidd, Caneuon, Teganau Rhyngweithiol, Chwarae Blêr, Crefftau a mynediad i'n hystafell synhwyraidd o'r radd flaenaf.