Mae Bi Caerdydd ar gyfer unrhyw un sy'n teimlo atyniad rhywiol at fwy nag un rhywedd neu sy'n meddwl y gall fod, ac sy'n byw yng Nghaerdydd a'r cyffiniau. Mae aelodaeth gyswllt ar gael i unrhyw un sy'n cefnogi'r grŵp.
Mae Bi Caerdydd yn cwrdd i drafod materion Bi, cymdeithasu, a chwrdd â phobl bi eraill yn ardal Caerdydd. Rydym hefyd yn rhedeg ymgyrchoedd i herio biffobia. Mae croeso i aelodau ddod dim ond i'r cyfarfodydd, dim ond i'r cyrddau cymdeithasol, neu i'r ddau.
Rydym yn cwrdd nos Iau gyntaf pob mis am 6.30 yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr, Heol Siarl. Mae cyrddau cymdeithasol ar ôl y cyfarfodydd, o 7.45pm yn nhafarn y Prince of Wales (Wetherspoon) ar Heol Eglwys Fair. Edrychwch am yr uncorn meddal porffor ar y ford. Mae'r cyrddau cymdeithasol a'r digwyddiadau yn agored i bawb sy'n gefnogol i bobl bi, waeth beth bo'u rhywioldeb.

Mae Bi...