Car Linc Môn

Mae’r cynllun yn bennaf ar gyfer ardaloedd gwledig lle mae gwasanaethau cludiant cyhoeddus yn brin, ond hefyd ar gyfer pobl sydd ddim yn ddigon ffit i ddefnyddio cludiant cyhoeddus - yn y wlad neu’r dref. Ers sefydlu’r cynllun yn 2001 mae Car Linc Môn yn darparu gwasanaeth teithio hanfodol i bobl sydd angen mynd i:
 Apwyntiad ysbyty
 Ymweld â’r meddyg, deintydd, optegydd
 Mynychu Canolfan Gofal Dydd
 Casglu presgrisiwn
 Siopa
 Ymweld â pherthnasau neu ffrindiau sy’n sâl.

Pwy sy’n trefnu ‘Car Linc Môn’?
Mae’r cynllun yn cael ei redeg o ddydd i ddydd o swyddfa Medrwn Môn yn Llangefni (dydd Llun i ddydd Gwener, 9 a.m.- 4 p.m.). Bydd aelod o staff Medrwn Môn yn gyfrifol am gymeradwyo pob cais am gludiant, yn trefnu i yrwyr gwirfoddol wneud pob taith, ac yn cynnig arweiniad petae unrhyw anawsterau’n codi.

Sut mae ‘Car Linc Môn’ yn gweithio? Pan fydd person sydd angen cludiant ar gyfer taith hanfodol yn cysylltu â Medrwn Môn, bydd aelod o staff yn cofnodi’r manylion, yn cadarnhau bod y daith yn gymwys, ac yn ffonio i gael hyd i yrrwr sy’n gallu gwneud y siwrne. Mae angen o leiaf 3 diwrnod o rybudd, a lle bo modd, trefnir teithiau sy’n cyfuno anghenion nifer o deithwyr. Bydd amcan bris, a’r dull o dalu wedi cael eu trefnu cyn y siwrne, ynghyd ag unrhyw drefniadau eraill e.e. amser dychwelyd, os oes angen hebryngydd, a oes gan y defnyddiwr gwasanaeth fathodyn glas a.y.b.
Bydd pob cais y cael ei asesu yn ôl ei haeddiant. Mae mynediad i’r gwasanaeth fwy nag unwaith yr wythnos yn bosibl, ond dim ond yn unol â disgresiwn Medrwn Môn.


Pwy sy’n cael defnyddio ‘Car Linc Môn’? Mae Car Linc Môn yn wasanaeth sydd ar gael i drigolion Ynys Môn (50+ oed) ar gyfer gwneud teithiau hanfodol ar adegau lle nad oes cludiant addas arall ar gael. Cyfrifoldeb Medrwn Môn ydy penderfynu os ydy taith benodol yn gymwys, ond mae’r rhestr wirio isod yn rhoi arweiniad o ran y meini prawf i gael defnyddio’r gwasanaeth:-
 Oes gan y teithiwr fynediad i unrhyw gludiant preifat e.e. car ei hun?
 Oes unrhyw gludiant cyhoeddus y gallai’r teithiwr ei ddefnyddio?
 Ydy hi’n bosib i’r teithiwr newid amser y daith er mwyn gallu defnyddio ffordd
arall o deithio?
 Ydy hi’n bosib i’r teithiwr ddefnyddio Gwasanaeth Car yr Ambiwlans?
 Ydy hi’n rhesymol i’r teithiwr logi tacsi ar gyfer y daith?
 Ydy hi’n rhesymol i’r teithiwr osgoi gwneud y daith yn gyfan gwbl?

Os mai’r ateb i unrhyw gwestiwn uchod ydy OES neu YDY – yna Ni fyddai’r daith fel arfer yn un ddilys.

Gyrwyr Gwirfoddol
Medrwn Môn sydd yn recriwtio gyrwyr gwirfoddol ar gyfer Car Linc Môn drwy hysysebu yn y wasg, gosod posteri mewn mannau cyhoeddus, a holi ar lafar. Mae’r cynllun yn edrych am wirfoddolwyr newydd yn gyson er mwyn cyflenwi’r gwasanaeth i’r holl ddefnyddwyr ar draws Ynys Môn.

Cyn taith gyntaf y gwirfoddolwr, bydd Medrwn Môn yn trefnu gwiriad ‘DBS’ i bob gyrrwr ac yn gofyn fod gan bob gyrrwr y canlynol:
 Trwydded Yrru Ddilys
 Tystysgrif MOT
 Tystysgrif yswiriant cynhwysfawr

Cost y Gwasanaeth
Cost pob taith hefo Car Linc Môn ydy £4.50 am y 6 milltir cyntaf, ac yna 55c y filltir wedyn. Er enghraifft, byddai taith o Langefni i Ysbyty Gwynedd ac yn ôl (taith o 19 milltir) yn costio £11.65 (sef £4.50 am y 6 milltir cyntaf a £7.15 am y 13 filltir arall). Fe fydd y gyrrwr yn derbyn 50c y filltir am bob siwrne. Swyddog o Medrwn Môn sydd yn gweinddu’r holl daliadau.

Rhwng Ebrill 2017 a Mawrth 2018 fe wnaeth Car Linc Môn drefnu 540 siwrne – cyfanswm o 12,482 milltir.

CAR LINC MÔN – 01248 725745 linc@medrwnmon.org

Darparwyd gan Car Linc Môn Gwasanaeth ar gael yn Llangefni, Ynys Môn
Medrwn Môn, Neuadd y Dref / Town Hall, Sgwâr Bulkeley Square, Llangefni, LL77 7LR
01248 725745 linc@medrwnmon.org

Car Linc Môn is mainly for people living in rural areas where public transport services are scarce, but also for those who are not fit enough to use public transport - in town or country. Since setting up the scheme in 2001 C...