Cymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw a'r Fro.

Plannwyd egin y Gymdeithas drwy weledigaeth dau o’r ardal – Paul Sambrook a Dave Jenkins. Erbyn Hydref 2005 roedd cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu trefnu yn Nhafarn y Butchers. Cyfarfu pobl leol ynghyd â rhai a sefydlodd yn yr ardal i ddarganfod hanes am eu cartrefi a’u cymdogaeth.
Erbyn 2006 roedd aelodaeth y grwp wedi codi i 20 a phenderfynwyd cydweithio drwy gasglu lluniau i ychwanegu at y casgliad gwreiddiol. Cyn hir roedd digon o luniau i’w sganio i wneud cryno ddisg (DVD) a’u gwerthu am £5 yr un. Bu’r fenter yn boblogaidd gyda digon o adnoddau i gynhyrchu dwy ddisg arall. Cyn bo hir roeddynt wedi eu dosbarthu ymhell ac agos.
Sut bynnag, er chwilota a holi dyfal, mae un llun ar goll – llun yn dangos unrhyw agwedd o’r hen Ffair Feigan – y ffair nodedig a gynhaliwyd yn flynyddol yn Eglwyswrw tua diwedd mis Tachwedd. Os gall unrhyw un lenwi’r bwlch buasem yn falch petaech yn cysylltu a ni.
I gofio Ffair Feigan penderfynwyd trefnu achlysur penodol. Cynhaliwyd Dydd Agored yn Yr Hen Ysgol ar 24ain o Dachwedd 2007, gydag arddangosfa o arteffactau, lluniau, mapiau, llyfrau cyfeirio a llyfrau lloffion. Bu’n ddiwrnod o lwyddiant ysgubol a gododd broffil y gymdeithas.
Yn ystod misoedd cynnar 2008 cytunwyd i ymgymryd a menter heriol – cynhyrchu llyfr o atgofion ein bro mewn hanesion a lluniau. Bu cywain, didoli a chyflwyno cynnyrch am bron ddwy flynedd. Yna lansiwyd y llyfr ymysg canmoliaeth uchel
Mae rhan fwyaf o'r llyfrau wedi eu gwerthu gyda chanran wedi eu dosbarthu dros Brydain a thramor i deuluoedd sy’n ymchwilio eu gwreiddiau.
Ffynnu o nerth i nerth yw hanes y Gymdeithas. Mae aelodaeth rhan fwyaf o flynyddoedd tua 30 - 40. Bu bri ar wrando ar hanesion a phrofiadau siaradwyr gwadd yng nghyfarfodydd cyson yn Nhafarn y Butchers a’r Hen Ysgol.
Trefnir ymweliadau i leoedd megis y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, Gerddi Aberglasney, ac wrth gwrs i Amgueddfa Werin San Ffagan. Bu siwrneiau nes adref diddorol megis teithiau cerdded i Garnedd Meibion Owen a gallt Tycanol ac ymweliad cofiadwy dros y ffin i Sir Gâr i’r Eglwys Eidalaidd yn Henllan. Rhaid peidio anghofio hefyd y pleser o droedio llwybrau a darganfod atyniadau lleol o fewn ein pentref - Eglwyswrw.
Dros y blynyddoedd mae'r Gymdeithas wedi parhau ei gwaith o gasglu a chofnodi hanes yr ardal. Rydym wedi bod yn ffodus i dderbyn rhoddion o ddogfennau a ffotograffau sy'n gysylltiedig â hanes lleol. Mae yna bob amser brosiectau ar y gweill. Y mwyaf amlwg oedd y prosiect Brodyr James, wedi ei enwi felly gan mae hyn oedd y cyntaf mewn gyfres o brosiectau mae'r Gymdeithas wedi derbyn Grant y Loteri sylweddol ar eu cyfer.
Yn Chwefror 2013 cynhaliodd y Gymdeithas weithdai yn y Fferm Ceffylau Gwedd, fel rhan o'r brosiect Brodyr James a’i reolir gan Rheinallt James, lle roedd plant o bob oed a gallu wedi cael y cyfle i ddefnyddio offer o gyfnod Howard a Herbert James o Arberth a adeiladodd ac yna hedfan eu ‘Caudron Biplane' gan mlynedd yn ôl.
Bu’r plant yn gweithio ar ‘propeller’, a gwneud helmedau hedfan o ledr yn ogystal ac adeiladu cyfarpar stêm ar gyfer plygu pren. Yr oedd yn hyfryd i weld pobl ifanc yn defnyddio hen offer oedd ar gael yn amser y Brodyr James, gyda llawer yn dangos lefel dda o sgiliau. Yn yr ail weithdy roedd hyd yn oed mwy o bobl yn cymryd rhan.
Rydym yn parhau i ymweld â safleoedd o ddiddordeb hanesyddol, Canolfan Dreftadaeth Gwyr, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, Castell Aberteifi, Eglwys Manordeifi, Caer Oes yr Haearn, Castell Henllys, Amgueddfa Cwryglau Cenarth i enwi ond ychydig.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi canolbwyntio ar lefydd o ddiddordeb hanesyddol yn Sir Benfro.
Rydym wedi mynychu cyfarfodydd ar gyfer 'Aelodaeth o Gymdeithasau Hanes' yn Llyfrgell Hwlffordd i wrando ar ddarlithoedd o amrywiaeth o bynciau yn gysylltiedig â hanes. Yn anffodus mae'r rhain wedi dod i ben.
Ddangosodd y Gymdeithas fodel o awyren y Brodyr James, gyda efelychydd yn Eisteddfod yr Urdd 2013 ym Moncath, a hefyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2014, yn Llanelli, mwynhawyd hefyd teithiau i lefydd a oedd yn gysylltiedig ag awyrennau.
Y mwyaf cofiadwy oedd ein hymweliad i ‘Control Tower, Carew’ lle disgrifiodd y gwirfoddolwyr brwdfrydig sut oedd bywyd amser y rhyfel yn R.A.F. Carew a hynny mewn modd difyr, diwrnod fydd oedolion a phobl ifanc fel ei gilydd yn cofio am amser hir i ddod. Hefyd roedd ymweld a Ymddiriedolaeth Sunderland yn Noc Penfro yn brofiad gwych.
Yr ydym wedi helpu haneswyr teuluol o’r wlad hon a thramor a wnaeth gysylltu â'r Gymdeithas gydag ymholiadau am eu cyndeidiau a oedd wedi byw yn yr ardal hon.
Rydym wedi bod yn ffodus i ddod o hyd i siaradwyr galluog iawn sydd wedi siarad ar bynciau amrywiol megis Castell Aberteifi, Y Cardi Bach, Barwniaeth Cemais a Threftadaeth Forwrol Gorllewin Cymru i enwi dim ond rhai.
Yn ystod y blynyddoedd rydym wedi coffáu Ffair Feigan gyda noson o ganu yn y Butchers Arms. Byddwn yn coffau’r Ffair eto yn y dyfodol.
Bu y Gymdeithas yn gweithio gyda phartïon eraill i godi Cofeb Rhyfel ar gyfer Eglwyswrw a'r ardal gyfagos. Mae pump ar hugain o bobl yr ardal wedi marw mewn rhyfel, yn bennaf yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ein bwriad oedd codi cofeb er cof am y dynion hyn erbyn canmlwyddiant dechrau Ryfel Byd Cyntaf.
Cafodd gwasanaeth Goffa a Chysegru y Gofeb newydd ei gynnal yn Eglwys St Cristiolus, Eglwyswrw ar Ddydd Sul y 10fed o Awst, 2014.
Tua'r un amser dechreuodd y Gymdeithas prosiect arall i gofio'r ddau fachgen, sef Milton Jones a Donald Pritchard a bu farw mewn damwain ar y Preseli yn 1944, pan wnaeth y bechgyn drin neu symud ordnans milwrol a ffrwydrodd, gan ladd y ddau.
Roedd gan y prosiect hwn sawl agwedd yn anelu i helpu pobl ifanc fod yn ymwybodol o hanes lleol yn ogystal â hanes rhyfel.
Cynhaliwyd gwasanaeth ar Awst 31ain i ddadorchuddio plac er cof am y ddau yng nghapel Seion Crymych gyda phlant yr Ysgol Sul yn cymryd rhan flaenllaw.
Mae llwyddiant y Gymdeithas yn ganlyniad o waith caled yr aelodau a'r gefnogaeth gan y gymuned ac o ymhellach i ffwrdd.
Yn 2017 cafodd y Gymdeithas y fraint i weithio ochr yn ochr ag eraill ar brosiect i gofio
Y Parchg. Benjamin Thomas (Myfyr Emlyn), un o feibion enwog Gogledd Sir Benfro.
Gweinidog y Bedyddwyr, Bardd, Darlithydd ac Awdur.
Ganwyd mewn bwthyn bach ar ymyl llethr gogleddol bryniau'r Preseli ym 1836, manteisiodd ar yr ychydig addysg leol a oedd ar gael. Er fod llawer o weinidogion wedi eu magu yn ardal a elwir yn lleol fel 'Rhos Glynmaen', ef oedd y mwyaf enwog.
Rydym yn ddiolchgar am yr holl gymorth a gawsom ar y prosiect hwn o sawl ffynhonnell wahanol.
Ar Ddydd Sadwrn, Hydref 21ain 2017 am 1.30yp, cynhaliwyd Gwasanaeth o Werthfawrogiad - a Seremoni Dadorchuddio Carreg Goffa Myfyr Emlyn yng Nghapel Bethabara, Pontyglasier, gan gynnwys peth o'i waith yn Gymraeg ac yn Saesneg, Cerddi, Emynau a Chaneuon.
Mehefin 2019. Bu aelodau o Gymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw a’r Fro, yn ogystal â ffrindiau, ar daith byth-gofiadwy yn ddiweddar, i ymweld â beddau a chofgolofnau’r sawl sydd wedi eu henwi ar gofeb pentref Eglwyswrw.
Treuliwyd dwy noswaith yn Arras yn y Somme, Ffrainc, a dwy noswaith yn Yprès yng Ngwlad Belg. Rhoddwyd torch fawr ar pob bedd a torch fechan ger pob cofgolofn, y torchau wedi eu gweithio gan aelodau Clwb Crefft a Chlonc, Eglwyswrw. Ar y diwrnod cyntaf, yn ogystal â mynwentydd o ddiddordeb i drigolion Eglwyswrw a’u ffrindiau, aeth y grwp i Goedwig Mametz. Yma ym mis Gorffennaf 1916, yn ystod y frwydr am Mametz Wood anafwyd dros 4,000 o Gymru. Dyluniwyd y gofeb, sy'n drawiadol tu hwnt, gan Dave Petersen o San Clêr.
Dydd Mawrth, ar ôl ymweld â Chofeb Arras, teithiwyd ymlaen tua Gwlad Belg, gan aros eto mewn mynwentydd a chofgolofnau perthnasol i'r pentref neu i gyd-deithwyr. Mynychodd pawb wasanaeth y Menin Gate y noson honno.
Dydd Mercher, mi ddaeth cyfle i ymweld a bedd Hedd Wyn, ble darllenwyd cerdd R. Williams-Parry 'Hedd Wyn', gan Bronwen Davies, a cherdd Hedd Wyn, 'Rhyfel', gan Meilyr Tomos.

Arhoswyd am beth amser hefyd yn Parc Cofio'r Cymry gerllaw, mae'r Gofeb hyn ar ffurf Cromlech, y cerrig wedi eu cludo o chwarel ger Pontypridd, a’r ddraig goch wedi ei chreu gan Lee Odishow uwchben. Gwaith Malcolm Gray o Dyddewi yw'r llechen o'i blaen, wedi'i arysgrifio yn Gymraeg, Saesneg a Fflemeg, ynghyd ag arwyddluniau gatrawd ar y meini hirion yn rhestr y tu ôl i’r Gofeb.
Buom yn ymweld a Mynwent Milwrol Almaeneg ger Langemark, man gorwedd 44,000 o filwyr Almaeneg.

Roedd yn foment yn fawr i Dave Mathias a’i wraig Jan, yng nghwmni dau aelod o’r Gymdeithas Treftadaeth, wrth iddynt gael yr anrhydedd o gymryd rhan yn y gwasanaeth swyddogol yn y Menin Gate.

Gosodwyd dorch gan Dave i gofio ei ddatcu, Idris Mathias a anwyd yn Eglwyswrw. Mae’r gwasanaeth yn digwydd yn Menin Gate am 8 o'gloch y nos pob diwrnod o’r flwyddyn gyda’r ‘Post Olaf’ yn cael ei swnio gan aelodau o'r Gwasanaeth Tân.
Er gweld miloedd o feddau rhyfel, rhyfedd oedd clywed bod trigolion lleol yn dal i ddod o hyd i weddillion milwyr mewn gwahanol fannau, a hynny dros can mlynedd yn ddiweddarach. Bu angladdau milwrol i dri milwr yn y dyddiau roeddwn yn yr ardal, dau o Brydain ac un o Ganada. Mae'n beth cysur i'w teuluoedd eu bod, o’r diwedd, wedi cael cydnabyddiaeth ac angladd barchus.
Diolch i Gaynor Jenkins a Will Thomas am drefnu'r daith, ac i Shôn (Midway) am ein cludo ar hyd rhai ffyrdd hynod o gul ac anodd o un mynwent i’r llall yn gyfforddus ac yn ddi-ffwdan. Cafwyd amser hwylus iawn gan bawb.
Mae ein gwaith yn parhau.

Eglwyswrw Heritage Soc C/O Llysybryn, Eglwyswrw, Crymych, SA41 3SR
eglwyswrwheritage@gmail.com http://eglwyswrwheritage.org.uk

The Eglwyswrw & District Heritage Society was initially started by residents, Paul Sambrook and Dave Jenkins. Then in October 2005 the group began regular meetings in the local pub, The Butchers Arms. Local people and those w...

Eglwyswrw Heritage Soc C/O Llysybryn, Eglwyswrw, Crymych, SA41 3SR
eglwyswrwheritage@gmail.com http://eglwyswrwheritage.org.uk/

Plannwyd egin y Gymdeithas drwy weledigaeth dau o’r ardal – Paul Sambrook a Dave Jenkins. Erbyn Hydref 2005 roedd cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu trefnu yn Nhafarn y Butchers. Cyfarfu pobl leol ynghyd â rhai a sefydlodd yn y...