Menter Iaith Casnewydd

Galluogi cymunedau Casnewydd i fyw a gweithio drwy'r iaith Gymraeg.
Nod Menter Iaith Casnewydd yw cynyddu defnydd y Gymraeg gan blant ac oedolion Casnewydd a’i gwneud yn iaith sy’n rhan o wead naturiol y ddinas gan alluogi pobl Casnewydd i fyw a gweithio yn y Gymraeg.

Rydym yn cynnig nifer amrywiol o wasanaethau Cymraeg:
-gofal plant ar ôl ysgol
-gweithdai gwyliau i blant a phobl ifanc
-clybiau sgwrsio, cerdded a chinio
-nosweithiau cwis
-gweithgareddau teulu
-stori a chrefft i blant
-ymwybyddiaeth iaith i fudiadau
-gwybodaeth am weithgareddau a gwasanaethau eraill yn Gymraeg
-a llawer mwy, cysylltwch a ni i drafod eich anghenion

Darparwyd gan Menter Iaith Casnewydd Gwasanaeth ar gael yn Usk Way, Casnewydd Addysg a hyfforddiant Plant a Theuluoedd
Menter Iaith Casnewydd, Llawr D, Prifysgol De Cymru, Usk Way, NP20 2BP

Gofal ar ôl ysgol i blant oed ysgol gynradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â ni am fanylion pellach.

Menter Iaith Casnewydd, Llawr D, Prifysgol De Cymru, Usk Way, NP20 2BP

Ymwybyddiaeth Iaith Gymraeg wedi addasu i'ch anghenion.
Welsh Language Awareness sessions tailored to your needs.