Mae Gwasanaeth Cyfeillio Powys PAVO yn cefnogi pobl dros 50 oed sy'n byw ym Mhowys, i helpu i gynnal eu hannibyniaeth, magu hyder, datblygu eu rhwydwaith cymdeithasol ac ailgysylltu â gweithgareddau yn y gymuned neu gyda phaned a sgwrs gyfeillgar yn eu cartref eu hunain.
Mae’n bosibl y bydd angen cymorth ar gleientiaid o ganlyniad i salwch, anabledd, profedigaeth, ymddeoliad, wedi symud i’r ardal neu heb rwydwaith cymdeithasol i’w cefnogi.
Mae cyfeillion yn ymweld â phobl yn eu cartrefi eu hunain neu yn y gymuned i ddarparu cwmnïaeth a chefnogaeth am uchafswm o 12 mis. Byddant yn helpu i hyrwyddo dewis personol, yn anelu at gynyddu hunan-barch, cefnogi sgiliau personol presennol a datblygu cyfleoedd newydd.
Mae gennym Wirfoddolwyr medrus, hyfforddedig sy'n gallu darparu gwasanaeth cyfeillio wyneb yn wyneb, galwadau ffôn rheolaidd, gohebiaeth llythyr / e-bost yn ogystal â'ch cefnogi i gael mynediad at ystod eang o grwpiau ar-lein a chyfleoedd cymdeithasol lleol.
MEINI PRAWF: Dros 50 oed - Byw ym Mhowys - Unig - Mewn perygl o golli annibyniaeth - Arunig - Rhaid meddu ar y gallu i ddeall y cynnig cyfeillio, rhoi caniatâd i atgyfeiriad a gallu cymryd rhan mewn sgwrs ystyrlon gyda gwirfoddolwr.
A friendly weekly chat with one of our trained volunteers.
Exchanging written letters to maintain contact and help reduce loneliness and isolation
A fun monthly meet up online for a chat and a coffee.
Online needlecraft group - sewing, knitting, crochet etc plus lots of friendly chat
Online group - Bring your own lunch and join us online for a friendly chat
Grŵp Coffi a Sgwrsio wythnosol sy’n dod â phobl hŷn sy’n unig ac wedi’u hynysu’n gymdeithasol at ei gilydd ar gyfer cwmni a chyfeillgarwch.
Rydym yn cyfarfod yng Nghaffi'r Ardd Berlysiau ddydd Mercher o 10.00-11.30yb.
Grŵp crefft ar-lein misol ar y 4ydd dydd Iau o'r mis am 11yb - 12yp.
Grŵp sgwrsio dynion ar-lein misol ar y 3ydd dydd Iau o'r mis am 12.30yp - 1.30yb.
Face to face support for individuals in their own home or in the community
Support to attend activities or hobby/interest groups in your community to reduce social isolation and loneliness
Befriending support via email or video call. Help and advice on getting online to access our digital programme of social activities.