Ers 1980 mae Noson Allan wedi gweithio gyda channoedd o leoliadau cymunedol
yn eu galluogi i hyrwyddo dros 14,000 o berfformiadau ledled Cymru.
Mae Noson Allan yn rhan o Gyngor Celfyddydau Cymru sy’n gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i gefnogi perfformiadau proffesiynol o safon, mewn ardaloedd sydd
heb fawr o fynediad i’r celfyddydau.
Mae’n cynorthwyo a chynghori cwmnïau a pherfformwyr, yn sicrhau eu bod yn cael
ffi teg. Mae hefyd yn annog datblygiad cymunedol a sbarduno’r economi leol.
Mae Noson Allan yn helpu drwy diddymu’r perygl ariannol. Mae’r broses yn syml a hawdd a gallwn ddarparu cyllid a thocynnau, ynghyd â chymorth ymarferol a chyngor, â llawer o argymhellion ar amrywiaeth enfawr o sioeau ar gyfer...