Mae Project Ysgolion Heddychlon yn cynnig rhaglen 6 awr am ddim gydag arweinydd gwirfoddol i gyflwyno’r themâu o wrthdaro a heddwch. Mae’n ymateb i’r diwylliant o drais a gelyniaeth sydd yn ein cymdeithas. Ein nod yw creu awyrgylch, mewn ysgolion, lle mae disgyblion yn trin ei gilydd a pharch , yn cydweithio a dysgu sgiliau i ddatrys problemau mewn ffordd adeiladol.
Gwneir llawer o’r gwaith yn ystod ‘amser cylch’ gan ddefnyddio cymysgedd o drafodaethau, gwaith par, gemau, straeon a drama. Rydym yn defnyddio amser tawel a chyflwyno ymarferion anadlu gan gynnig sgiliau i’r disgyblion ar sut i ddelio a straen ei hunain.
Mae Project Ysgolion Heddychlon yn fenter gan Grynwyr Canolbarth Cymru, ond d’yw e ddim am Grynwriaeth nag yn grefyddol.
Mae’r sesiynau yn dilyn meysydd y cwricwlwm ABCh ac yn cynnwys:
• archwilio heddwch o fewn ein hunain
• ffyrdd diogel o fynegi dicter ag emosiynau anodd eraill
• annog empathi a sgiliau gwrando da
• datrys gwrthdaro a chyfryngu cyfoedion
• archwilio themâu ffoi , lloches ac iawnderau dynol
Mae'r prosiect Addysg Heddwch yn un o fentrau Cyfarfod Crynwyr Ardal Canolbarth Cymru. Mae'n deillio o bryder am filwriaeth gynyddol ein cymdeithas, a hyd yn oed yn ehangach i ymwybyddiaeth o'r diwylliant o drais sydd wedi'i...