Cyngor Iechyd Cymuned (CIC) Powys yw corff gwarchod annibynnol gwasanaethau'r GIG yng Powys. Mae CIC Powys yn ceisio gweithio gyda'r GIG a chyrff arolygu a rheoleiddio. Rydym yn darparu dolen gyswllt bwysig rhwng y rhai sy'n cynllunio ac yn darparu gwasanaethau'r GIG, y rhai sy'n eu harchwilio a'u rheoleiddio, a'r rhai sy'n eu defnyddio.
Mae CIC Powys yn clywed gan y cyhoedd mewn sawl ffordd wahanol. Rydym yn ymweld â gwasanaethau'r GIG er mwyn siarad â chleifion a gofalwyr. Rydym yn siarad â phobl mewn digwyddiadau cyhoeddus, a thrwy grwpiau cymunedol.
Mae ein Gwasanaeth Eiriolaeth yn helpu pobl sydd am godi pryderon am ofal neu driniaeth y GIG.
Rydym yn defnyddio arolygon, apiau a'r cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â'n cymuned.
Powys Community Health Council [CHC] is an independent statutory organisation which represents the interests of patients and the public in the National Health Service in Powys. We are the independent NHS ‘watchdog’ in Powys...