Mae SNAP Cymru yn elusen gofrestredig Gymreig. Mae SNAP Cymru yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i rieni plant a phobl ifanc, 0-25 oed, sydd wedi neu a allai fod ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau. Mae ein cyngor yn ddiduedd, yn gyfrinachol ac am diim a ddarperir drwy ein llinell gymorth Genedlaethol, taflenni ffeithiau a gwasanaeth gwaith achos arbenigol.
Rydym yn rhoi cyngor annibynnol ar ddeddfwriaeth, lleol a pholisi cenedlaethol ar draws Addysg, lechyd a Gofal, Cymorth AAA, Asesu statudol, Apedliadau a Thribiwnlysoedd. Rydym yn cynnig cefnogaeth gwaith achos ar gyfer cyfarfodydd gyda phobl broffesiynol, cyfryngu, cwynion ac apeliadau.
Mae SNAP Cymru’n cynnig cyngor a chymorth am ddim yn gysylltiedig â:
Dyletswyddau cyfreithiol Awdurdodau Lleol i asesu a darparu ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig.
Gwahardd plant ag anghenion arbennig/anableddau
Gweithredu/diffyg gweithredu gan Awdurdodau Lleol a/neu ysgolion sy’n gwahaniaethu yn erbyn plant a phobl ifanc ag anableddau.
Mae gwasanaethau SNAP Cymru’n cael eu darparu gan staff a gwirfoddolwyr sydd wedi eu hyfforddi i safon uchel. Mae nifer ohonynt yn rhieni i blant ag anghenion addysgol arbennig.
Hefyd dyfarnwyd i ni Wobr Cyfreithol Cymunedol am Gyngor ynglyn ag Addysg drwy Wasanaeth Arbenigol, a Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol.
Ariennir SNAP Cymru i ddarparu Gwasanaeth Partneriaeth Rheini yn yr 20 ALI yng Nghymru. Mae’n darparu gwasanaeth Datrys Anghytundebau Ffurfiol yn AAA a Phrosiectau Teulu LIC mewn rhai ardaloedd, fel Caerdydd, Abertawe a Merthyr. Fodd bynnag, rydym hefyd yn dibynnu ar roddion a grantiau gan ymddiriedolaethau, cwmniau ac unigolion i gynnal ein gwasanaethau am ddim.
Ceisiwn wella ein polisi AAA drwy Gymru gan ddefnyddio’r dystiolaeth a gaglwn drwy ein cysylltiadau a theulouoedd. Cymerwm ran mewn ymgynghoriadau a’r Llywodraeth.
Rydym yn darparu hyfforddiant ar bolisi, arfer da a chyfraith AAA/anabledd i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol fel Timau Troseddau leuenctid, Tim Ombwdsmon Gwasanaeth Cyhoeddus a Gyrfa Cymru.
SNAP Cymru is a registered Welsh charity that provides information, advice and support for parents children and young people (0-25), who have or may have special educational needs (SEN) and disabilities. Our advice is imparti...