stroc Association

Y Gymdeithas Strôc yw prif elusen y DU sy’n ymroddedig i orchfygu strôc, a’r weledigaeth yw cael byd lle mae llai o strociau ac sy’n credu mewn Bywyd ar ôl Strôc. Rydym yn gweithio i geisio helpu goroeswyr Strôc a’u teuluoedd i ymdopi yn dilyn Strôc drwy ddarparu cymorth a chyngor y maen nhw wirioneddol eu hangen. Cenhadaeth y Gymdeithas Strôc yw atal strôc trwy ymchwil, addysg a chodi ymwybyddiaeth o Bwysedd Gwaed Uchel a Ffibriliad Atrïaidd (AF) a adnabyddir hefyd fel curiad calon afreolaidd.
Rydyn ni'n darparu stondinau gwybodaeth ac yn recriwtio gwirfoddolwyr i helpu gyda'n darpariaeth gwasanaeth.
Fel Cydlynydd, fy rôl i yw helpu a chefnogi’r goroeswr strôc a’u teuluoedd, gan ddarparu cymorth emosiynol, cyngor a chynnig cymorth ymarferol pan fo’i angen fwyaf. Mae fy rôl yn cynnwys cysylltu â’r holl dimau iechyd Sylfaenol, ar y wardiau ac yn y Gymuned, megis Ffisiotherapyddion a Therapyddion Galwedigaethol, a chydweithio â holl sefydliadau’r trydydd sector. Un o fy mhrif swyddogaethau yw cefnogi gofalwyr goroeswyr strôc yn y gymuned ac ar y wardiau i reoli’r sefyllfa hon sy’n newid bywydau.

Carmarthenshire, , , c
07799436050 angela.hayes@stroke.org.uk http://www.stroke.org.uk/

Stroke Association is a Charity that provides Support for Stroke survivors with information, practical and emotional support for the family and ongoing support upto 12 months post stroke