Mae Tai Pawb yn hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru. Credwn fod gan bob unigolyn yr hawl i gael mynediad at dai a chartref o ansawdd da mewn cymunedau cydlynol a diogel. Rydyn ni am leihau rhagfarn, bod dan anfantais a thlodi.
Rydyn ni am ddarparu gwell mynediad at wasanaethau llety a thai, yn ogystal â chynnig gwell canlyniadau i grwpiau megis pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl anabl, pobl Lesbiaidd, Hoyw a Thrawsrywiol (LGB), pobl Trans*, pobl hŷn ac ifanc amrywiol, ac eraill.
Rydyn ni’n dîm arbenigol o staff ac aelodau bwrdd ymroddedig sy’n driw i’n gwerthoedd. Rydyn ni’n gweithio i ddylanwadu ar wneuthurwyr penderfyniadau, cefnogi sefydliadau ar faterion cydraddoldeb ac yn codi ymwybyddiaeth o heriau allweddol ym maes tai a chydraddoldeb.
Rydym yn sefydliad o aelodau. Rydyn ni’n cefnogi ac yn gweithio gyda’n haelodau ar draws y sectorau tai a chydraddoldeb. Gweithiwn yn agos hefyd â rhanddeiliaid megis Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
Tai Pawb promotes equality and social justice in housing in Wales. We believe that all people have the right to access good quality housing and homes in cohesive and safe communities. We want to reduce prejudice, disadvantage...