Bydd Sporting Memories Cymru yn gweithio gyda chymunedau a sefydliadau i hybu lles meddyliol a chorfforol pobl dros 50 oed gan ddefnyddio pŵer chwaraeon fel ffocws i gynnwys y rhai sy’n byw gyda dementia ac iselder yn benodol, neu bobl sydd wedi’u hynysu yn gymdeithasol. • Bydd 30 o glybiau wythnosol dan arweiniad gwirfoddolwyr yn cael eu cynnal mewn stadiymau chwaraeon, clybiau chwaraeon, canolfannau gofal, canolfannau cymunedol a llyfrgelloedd, gan ddefnyddio lluniau o’r archif o chwaraeon, memorabilia ac adroddiadau newyddion i sbarduno atgofion da am chwarae neu wylio chwaraeon. • Yn ogystal â hel atgofion am chwaraeon a gadael i aelodau’r grwpiau ddweud eu straeon drwy atgofion chwaraeon, mae’r clybiau’n cynnwys ymarfer a chwarae chwaraeon addas, er mwyn cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol y rhai sy’n elwa. • Mae pobl yn meithrin cyfeillgarwch ac yn ennill hyder i gyfarfod ffrindiau newydd a gwneud cysylltiadau pwysig, nid dim ond yn y clybiau, ond yn y gymuned ehangach hefyd. • Bydd y prosiect hwn yn ehangu ystod ac argaeledd y cyfleoedd gweithgarwch corfforol a chwaraeon i bobl hŷn yng Nghymru yn sylweddol ac mae ei gam cyntaf yn cael ei gyllido gan y Gronfa Iach ac Egnïol sy’n cael cyllid drwy bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Our
Sporting Memories
The Sporting Memories Foundation (Registered Charity Number 1154474) is the World's first charity dedicated to Sports Reminiscence & Physical Activities.
We support older people living in England and Wale...