Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Mae pobl Cymru bob amser wedi dod at ei gilydd o’u gwirfodd, nid i wneud arian nac am fod y gyfraith yn dweud bod rhaid iddynt, ond am eu bod eisiau gwneud gwahaniaeth.

Ond wrth i’r Dirwasgiad a thlodi daro Cymru’n galed yn y 1930au sylweddolodd pobl nad oedd eu sefydliadau’n barod i fynd i’r afael â’r heriau o’u cwmpas. I wneud mwy o wahaniaeth roedd angen iddynt ddod at ei gilydd, trefnu ac edrych ymlaen i baratoi at y dyfodol.

Dyna pam y ffurfiwyd CGGC. A dyna pam rydym yn bodoli heddiw.

Drwy ein grym cyfunol, ac wedi ein hysgogi gan y dyhead a rannwn i wella bywydau pobl, rydym yn galluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.

Darparwyd gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru Gwasanaeth ar gael yn Caerdydd Addysg a hyfforddiant
One Canal Parade, Dumballs Road, , CF10 5BF
0300 111 0124 training@wcva.cymru http://www.wcva.cymru

Rydym yn darparu hyfforddiant i'r trydydd sector a'r sector cyhoeddus ar bynciau amrywiol, gan gynnwys Llywodraethu, Arwain a Rheoli, Ymgysylltu â'r Cyhoedd, Cydgynhyrchu, Cyfathrebu a Chyllid.