Mae Cyngor Age Cymru yn ymrwymedig i fod y gwasanaeth gwybodaeth a chyngor mwyaf blaenllaw ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru. Ein nod yw darparu gwybodaeth a chyngor effeithiol, hygyrch, o ansawdd uchel, tra’n cynnig gwasanaeth di-dâl, diduedd a chyfrinachol ar yr un pryd. Gall Cyngor Age Cymru roi cymorth i’r bobl hŷn eu hunain, aelodau o’r teulu, gofalwyr neu weithwyr proffesiynol.
Os ydych chi eisiau siarad ag un o’n cynghorwyr arbenigol, yn Gymraeg neu Saesneg, yna ffoniwch ni ar 0300 303 44 98. Mae’r llinell gyngor ar agor rhwng
9yb a 4yh, dydd Llun i ddydd Gwener. Gallwch anfon e-bost atom hefyd i
cyngor@agecymru.org.uk neu ewch i’n gwefan, sef www.agecymru.org.uk/advice
Mae llinell Gyngor Age Cymru yn ymddwyn fel llwybr at ein gwasanaethau lleol hefyd. Mae’n bosib bod cymorth wyneb yn wyneb ar gael, trwy gyfrwng swyddfeydd lleol ac ymweliadau cartref, i alwyr sydd angen cymorth ychwanegol neu fwy arbenigol.
Monday - Friday 9am - 4pm
Galw heibio
Hunangyfeirio
Atgyfeiriad gan asiantaeth
Trwy drefnu apwyntiad yn unig