Age Cymru yw’r elusen arweiniol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru. Rydym yn ymgyrchu, ymchwilio achodi arian, i sicrhau ein bod yn creu bywyd gwell i bobl
hŷn. Rydym yn sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed, rydym yn herio ac yn newid agweddau, rydym yn brwydro yn erbyn gwahaniaethu lle bynnag y daw i’n rhan ac rydym yn mynd i’r afael â phob math o gam-drin pobl hŷn.
Mae Cyngor Age Cymru yn ymrwymedig i fod y gwasanaeth gwybodaeth a chyngor mwyaf blaenllaw ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru. Ein nod yw darparu gwybodaeth a chyngor effeithiol, hygyrch, o ansawdd uchel, tra’n cynnig gwasanaeth d...