Cartrefi Iach, Pobl Iach - Cymru Gynnes

Lleoliad

Cyfeiriad post

Harbourside Business Park Port Talbot SA13 1SB

Cyswllt

01656 747 622

Mae Cartrefi Iach, Pobl Iach yn gweithio ledled Cymru a De-orllewin Lloegr gan gefnogi pobl i gael:

• Cartrefi cynhesach
• Cartrefi mwy diogel
• Cartrefi iachach

Rydym yn gwneud hyn drwy gynnig cyngor a chymorth amrywiol ac opsiynau atgyfeirio wedi'u teilwra i anghenion yr aelwyd. Mae Cartrefi Iach, Pobl Iach yn agored i bawb, ond mae gan rai o'r gwasanaethau y cyfeiriwn atynt eu meini prawf cymhwysedd eu hunain.
Mae'r cymorth y gallwn ei gynnig yn cynnwys:

• Ynni: cymorth a chyngor i ddeall biliau ynni, cymorth gyda dyledion tanwydd, newid tariff, mesuryddion deallus, cynilion a disgowntiau (e.e., Gostyngiad Cartrefi Cynnes)
• Dŵr: gwybodaeth, cyngor a chymorth gyda gostyngiadau tariff a mesuryddion dŵr
• Gwresogi: cymorth gyda cheisiadau i Nyth, cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru, darparu bwyleri newydd, systemau gwres canolog ac insiwleiddio i aelwydydd cymwys
• Cynyddu incwm i'r eithaf: cymorth a chyfeirio ar gyfer gwirio budd-daliadau a cheisiadau am ostyngiad yn y dreth gyngor
• Addasiadau i'r cartref: cymorth i gael mynediad i reiliau gafael, cawodydd gwastad, lifftiau grisiau ac ati.
• Cofrestr Gwasanaeth Blaenoriaeth: cofrestru am ddim gyda darparwyr nwy, trydan a dŵr ar gyfer aelwydydd cymwys
• Mesurau diogelwch yn y cartref: ymwybyddiaeth o garbon monocsid, larymau mwg a falfiau coginio sy’n cloi- gwybodaeth a chyngor i bawb a dyfeisiau ar gyfer aelwydydd cymwys
• Cysylltiad â'r rhwydwaith nwy: cymorth i wneud cais am dalebau cysylltu nwy lle bo hynny'n gymwys

Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, yn ei chael hi'n anodd cynhesu eich/eu cartref, cysylltwch â ni.

Amseroedd agor

Monday - Friday: 9am - 4pm

Dewisiadau Mynediad

Galw heibio

Hunangyfeirio

Atgyfeiriad gan asiantaeth

Trwy drefnu apwyntiad yn unig