Ymgynghoriaeth ar Reoli
Mae ein gwasanaeth rheoli ymgynghorol am ddim yn cynnig cyngor ac atebion busnes sydd wedi’u teilwra i elusennau, boed os ydych angen help gyda strategaeth fusnes eich elusen, llywodraethu, marchnata neu brosesau ariannol, gallwn helpu. Mae ein proses ymgynghorol yn eithaf syml ac ar gael i unrhyw sefydliad dielw sydd wedi’i gyfansoddi’n ffurfiol a’i brif ddiben yw mynd i’r afael â materion tlodi, anabledd neu allgáu cymdeithasol.
Ein nod yw helpu pawb yr ydym yn credu a all elwa o brosiect
gyda ni. Nid oes unrhyw baneli i’w dethol na rhwystrau ychwanegol i’w cyflwyno.
A yw fy sefydliad yn gymwys am brosiect rheoli ymgynghorol?
I elwa o’n cefnogaeth ymgynghorol ar reoli, mae angen i’ch elusen ddiwallu’r meini prawf canlynol:
Rhaid i’ch prif ddiben olygu mynd i’r afael ag anghenion tlodi, anabledd neu allgáu cymdeithasol.
Rhaid i chi fod yn sefydliad dielw sydd wedi’i gyfansoddi’n ffurfiol gyda bwrdd o ymddiriedolaethwyr, megis elusen gofrestredig neu Gwmni Buddiannau Cymunedol (CIC).
Mae angen i chi gael digon o amser ar gael i weithio gyda’n gwirfoddolwyr sy’n cynnig cefnogaeth mentora, yn hytrach na mynd â gwaith ymaith gyda chi.
Rhaid i chi fod wedi’ch lleoli yn y DU, hyd yn oed os ydych yn cefnogi gwaith dramor.
Rhaid cytuno ar unrhyw brosiect a gynhelir gan ymddiriedolwyr eich elusen a’r Prif Weithredwr.
Noder: Mae’r meini prawf cymhwyster hwn ond yn gymwys i’n gwasanaeth rheoli ymgynghorol. Mae ein holl wasanaethau eraill yn agored i unrhyw elusen gofrestredig neu sefydliad dielw sydd wedi’i gyfansoddi’n ffurfiol a chyda diben elusennol.
HRNet
Nid oes gweithiwr Adnoddau Dynol (AD) proffesiynol o fewn eu tîm gan nifer o elusennau bach i ganolig eu maint, ond efallai y bydd angen iddynt reoli sefyllfaoedd cyflogi cymhleth tra’n cydymffurfio â deddfwriaeth gyflogi.
Mae HRNet yn cynnig cefnogaeth hanfodol i elusennau a mentrau cymdeithasol heb y costau. Mae’n cynnig cyngor penodol i’ch cwestiynau unigol, ynghyd â nodyn briffio pob pythefnos am faterion cyflogi.
Gall unrhyw elusen gofrestredig neu sefydliad dielw sydd wedi’i gyfansoddi’n ffurfiol a chyda diben elusennol ymuno â HRNet am ddim.
Our free management consultancy service provides tailored business advice and solutions exclusively for charities. Whether you need help with your charity's business strategy, governance, marketing or financial processes, we...