Beth ydy Cyfle Cymru – Gwasanaeth Mentora Cyfoedion?
Mae mentoriaid cyfoedion Cyfle Cymru yn helpu’r rhai sydd ar y cynllun i fagu hyder, gan roi cymorth i gael mynediad i hyfforddiant, cymwysterau a phrofiad gwaith.
Rydym yn helpu pobl a effeithir gan gamddefnyddio sylweddau a / neu gyflyrau iechyd meddwl i ennill y sgiliau sydd eu hangen i fynd i mewn i’r byd gwaith.
Sut allwn ni helpu?
Cefnogaeth un-i-un gan Fentor Cyfoedion
Mae ein Mentoriaid Cymheiriaid yn tynnu ar eu profiad eu hunain o gamddefnyddio sylweddau, adfer, a / neu gyflyrau iechyd meddwl. Maent yn deall yr hyn yr ydych yn mynd drwyddo, a gallent fod gyda chi pan fyddwch yn wynebu profiadau newydd.
Mae ein harbenigedd mewn triniaeth ac adferiad yn golygu y gallwch ymddiried ynom i’ch helpu i wneud y penderfyniadau cywir.
Cefnogaeth arbenigol a chyfleoedd
mynediad i gymwysterau a hyfforddiant
cyfle i roi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned
cyfleoedd profiad gwaith go iawn
help i chwilio a gwneud cais am swyddi
cymorth sy’n parhau ar ôl i chi fynd i waith, hyfforddiant neu addysg er mwyn eich cynorthwyo i setlo
Pwy sy’n gallu derbyn cymorth?
Fe allwn ni roi help i chi ddod o hyd i waith os ydych chi:
chi rhwng 16-24 oed ac nad ydych mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
25 oed neu drosodd a wedi bod heb swydd neu heb fod yn y byd gwaith ers cyfnod hir
byw yng ngogledd Cymru
gwella ar ôl camddefnyddio sylweddau a/neu broblemau iechyd meddwl
What is Cyfle Cymru – Peer Mentoring Service?
Cyfle Cymru peer mentors help people to develop confidence, and provide support to access training, qualifications and work experience.
We help people affected by substance mi...