Mae'r Gymdeithas Gofal yn elusen leol ac arobryn sydd wedi'i silio yng Ngheredigion. Mae'n darparu tai a gwasanaethau cymorth ledled y Canolbarth ac yn mynd i'r afael a digartrefedd yno. Yn lleol, rydym wedi bod yn gyfrifol am astyngiadau sylweddol mewn digartrefedd a digartrefedd mymych.
Rydym yn helpu ystod eang o bobl, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u heithrio'n gymdeithasol a'r aelodau mwyaf bregus o gymdeithas, fel bod eu bywydau'n fwy egniol a buddiol. Trwy hyn, rydym yn mynd i'r afael a thlodi ac yn lleihau'r pwysau ar iechyd lleol ac adnoddau cyhoeddus.
Gan withio mewn partneriaeth a'r Awdurdod Lleol ac asiantaethau partner araill, rydym yn gynnig cymorth a chyngor ar nifer o faterion, gan gynnwys cyllid a dyled, camddefnyddio sylweddau, iechyd a llesiant, materion iechyd meddwl a chyflogadwyedd.
Fel llawer o elusennau, rydym yn dibynnu ar haelioni'r cyhoedd i gynnal a gwella ein gwaith ac i ddarparu cymorth ychwanegol i'n defnyddwyr gwasanaeth. Mae ein Siop Elusen yn y Ffynnon Haearn, Aberystwyth, yn cymryd dillad o...