Mae Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru yn fudiad aelodaeth annibynnol i ymarferwyr sy’n hyrwyddo gwaith a chynnal y rhwydwaith cynyddol o ymddiriedolaethau datblygu yng Nghymru. Mae DTA Cymru yn rhan o Cymdeithas yr Ymddiriedolaethau Datblygu ledled gwledydd Prydain, y rhwydwaith menter ac adfywio cymunedol a’r mudiad sy’n tyfu’n gyflym o fwy na 500 ymddiriedolaeth datblygu a 43 yng Nghymru, gydag asedau sy’n eiddo i’r gymuned gwerth £560 miliwn.
Er bod Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu (DTA) Cymru yn fudiad o aelodau, nid i’n Haelodau yn unig yr ydym yn darparu gwasanaethau. Mae gennym hefyd ystod o raglenni a gwasanaethau sy’n rhoi budd i’r trydydd sector ehangach yng Nghymru.
Mae ein holl waith wedi’i strwythuro o gwmpas 3 maes craidd sy’n gysylltiedig â’n cenhadaeth a’n gwerthoedd:
Mentrau cymunedol – rydym yn annog datblygu ymddiriedolaethau a mudiadau cymunedol eraill i feithrin mentrau cymunedol ar gyfer cynaliadwyedd tymor hir
Perchnogaeth gymunedol ar asedau – rydym yn cefnogi cymunedau sy’n ystyried cymryd rheolaeth ar dir ac adeiladau ar draws Cymru, neu helpu i ddatblygu rhai sydd eisoes ym mherchnogaeth y gymuned
Cymunedau’n cefnogi cymunedau – rydym yn defnyddio dull cefnogaeth gan gymheiriaid lle bynnag y bo’n bosibl er mwyn cyflawni adfywio cymunedol mewn cymunedau ledled Cymru
Mae gan Atebion Mentrus rwydwaith o Gydlynwyr lleol ledled Cymru. Mae’r cydlynwyr hyn wedi’u lleoli mewn sefydliadau lletya trydydd sector ar draws Cymru ac yn darparu cefnogaeth ar lawr gwlad, gan gyfatebu mentrau cymunedol...