Gofalwyr Ceredigion Carers - Credu

Ydych chi’n gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind? Os felly, rydych chi’n bwysig hefyd!
Rydym yn cefnogi Gofalwyr Ifanc ac Oedolion sy’n Gofalu yng Ngheredigion gyda:
• cymorth 1:1
• grwpiau cymorth a sesiynau galw heibio
• gweithgareddau a digwyddiadau
• hyfforddiant penodol ar gyfer gofalwyr
• cymorth i ofalwyr gael mynediad at wyliau byr a gofal seibiant.
Rydym yn gweithio gyda gofalwyr ar bethau sy’n bwysig iddyn nhw, a’r hyn fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol iddynt, oherwydd mae pob gofalwr a’i amgylchiadau’n unigryw. Gwyddom y gall fod yn anodd weithiau asesu’r cymorth sydd ei angen, felly gofalwn ein bod yn gweithio ym mha bynnag ffordd sydd fwyaf addas i’r gofalwr, boed yn ymweliad cartref neu gwrdd am sgwrs mewn lleoliad niwtral megis caffi, cael sgwrs ar y ffôn neu drwy ebost neu negeseuon testun. Mae’r gwasanaeth ar gael am ddim ac mae’n gyfrinachol.

Darparwyd gan Gofalwyr Ceredigion Carers - Credu Gwasanaeth ar gael yn Ceredigion
County Wide, , , SY23 1SF
03330 143377 ceredigion@credu.cymru https://credu.cymru/gofalwyr-ceredigion-carers/

Do you look after a family member or a friend? Then you matter too!
We support unpaid and family carers over 18 in Ceredigion with:
• 1:1 support
• support groups and drop-ins
• events
• carer specific training
• help...