Sir Benfro yn Dysgu

Sir Benfro yn Dysgu yw Gwasanaeth Dysgu Oedolion a’r Gymuned Cyngor Sir Penfro. Mae’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau achrededig ac anachrededig i oedolion, a gynhelir yn ystod y dydd a chyda’r nos, mewn lleoliadau yn y gymuned ledled Sir Benfro ac ar-lein. Mae'r cyrsiau sydd ar gael yn cynnwys:
- Iechyd a lles
- Sgiliau llythrennedd (gan gynnwys Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill)
- Sgiliau rhifedd
- Sgiliau llythrennedd digidol
- Sgiliau cyfrifiadurol
- Sgiliau cyflogaeth
- TGAU
- Dysgu Cymraeg
- Ieithoedd modern
- Pynciau o ddiddordeb cyffredinol
- Sgiliau creadigol a pherfformio
Yn ogystal â chael eu cynnal mewn llawer o leoliadau gwahanol ledled y Sir, mae rhai o gyrsiau Dysgu Sir Benfro hefyd yn cael eu darparu ar-lein, gan ei gwneud yn haws nag erioed dod o hyd i amser addas i chi.
Mae Canolfannau Dysgu Cymunedol yn Abergwaun, Hwlffordd, Crymych, Doc Penfro a Dinbych-y-pysgod. Ceir darpariaeth hefyd yn ardaloedd. Aberdaugleddau a Neyland – a gydlynir o Ganolfan Ddysgu Gymunedol Hwlffordd. Mae Canolfan Gymunedol Bloomfield yn Arberth.

Darparwyd gan Sir Benfro yn Dysgu Gwasanaeth ar gael yn Narberth, Sir Benfro Addysg a hyfforddiant
Central Services office, Bloomfield House, Narberth, SA67 7ES
01437 770130 learn@pembrokeshire.gov.uk http://www.pembrokeshire.gov.uk/learningpembrokeshire

Learning Pembrokeshire aims to provide a range of high quality lifelong learning opportunities across the county that will engage and enable all learners to gain knowledge and skills, progress in learning, play an active role...