Wyrcws Llanfyllin, a adwaenir yn lleol fel Y Dolydd, yw un o’r enghreifftiau gorau o wyrcws Fictoraidd i oroesi ym Mhrydain. Mae'n ganolfan gymunedol sy'n datblygu ac yn lleoliad ar gyfer y celfyddydau, addysg, yr amgylchedd a threftadaeth.
Mae’n gartref i Ganolfan Hanes y Wyrcws, sydd ar agor bob dydd i’r cyhoedd yn rhad ac am ddim, ac mae’n cynnig llety byncws ar gyfer hyd at 20 person. Mae’n cynnig oriel gelf, gweithdy a gofod stiwdio ac mae’n gartref i tua 20 o fentrau lleol, llawer ohonynt yn y sector creadigol.
Gyda lleoliad gwledig hardd, pedwar cwrt deniadol, cegin arlwyo a chaffi-bar a mannau dan do eraill mae'n darparu lleoliad deniadol ar gyfer priodasau a digwyddiadau preifat. Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o gerddoriaeth a digwyddiadau diwylliannol.
Mae gan Wyrcws Llanfyllin ymrwymiad cryf i egwyddorion hwb gwyrdd ac mae’n cynnig cyrsiau a gweithgareddau mewn ecoleg a chrefftau gwledig.
Llanfyllin Dolydd Building Preservation Trust (elusen gofrestredig rhif 1091097) sy'n berchen ar y Wyrcws, yn ei reoli ac yn ei gefnogi. Rheolir yr Ymddiriedolaeth gan ei haelodau a rhedir y Wyrcws bron yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr: mae cyfleoedd i helpu gyda chynnal a chadw, garddio, codi arian, trefnu digwyddiadau, derbyn ymwelwyr ac ymchwil hanesyddol.
Llanfyllin Workhouse, know locally as Y Dolydd, is one of the finest examples of a Victorian workhouse to survive in Britain. It is a developing community centre and venue for the arts, education, environment and heritage....
Un o'r tlotai Fictoraidd gorau sydd wedi goroesi ym Mhrydain a'r unig un yng Nghymru sydd ar agor i'r cyhoedd. Atyniad treftadaeth yn cynnwys amgueddfa fechan gydag arddangosfeydd dwyieithog ar fywyd y wyrcws; ffilm 30-munu...
Lleoliad, oriel, caffi-bar, pedwar cwrt, gardd a chae chwe erw ar gael ar gyfer priodasau, digwyddiadau, ralïau a digwyddiadau eraill mewn lleoliad gwledig hardd. Digon o le parcio. Llety byncws i 20 person.
Am fwy o wybo...
Llety syml yn awyrgylch unigryw wyrcws Fictoraidd, wedi'i anelu'n arbennig at grwpiau. Gwelyau bync i 20 mewn tair ystafell a chegin hunanarlwyo. Ystafell ymolchi a chawod sylfaenol, neillryw. Lle tu allan ar gael.
Ar ag...
Mannau o feintiau amrywiol i'w rhentu ar y llawr gwaelod neu'r llawr cyntaf mewn lleoliad hanesyddol llawn cymeriad. Ar hyn o bryd mae llawer yn cael eu gosod i artistiaid a chrefftwyr, sy'n gallu arddangos eu gwaith mewn d...
Rydym yn cynnal digwyddiadau byw yn rheolaidd, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf.
Mae'r rhain yn cynnwys Steampunk a gwyliau cerddoriaeth eraill, cyngherddau, arddangosfeydd celf a chrefft, sioeau ceffylau a merlod, nos...