Mae Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff - Powys

Mae Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Cymru Gyfan (NERS) yn gynllun a ariennir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol, Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd Lleol. Mae wedi ei anelu at bobl dros 16 oed nad ydynt wedi arfer â bod yn gorfforol egnïol ac mae ganddynt un neu fwy o anhwylderau meddygol. Mae’r cynllun wedi’i gynllunio i roi cyfleoedd ymarfer sy’n hwyliog ac sy’n rhoi boddhad. Dylai’r ymarferion hyn fod yn hawdd eu plethu i fywyd beunyddiol rhywun. Ym Mhowys mae gennym saith o Weithwyr Proffesiynol ac Arbenigwyr Adfer ar saith safle ar draws y sir. Mae’r cynllun yn rhedeg am dros 16 wythnos yn olynol gyda dwy sesiwn grŵp bob wythnos dan oruchwyliaeth. Mae'r gweithgaredd yn costio dwy bunt hanner cant a sesiynau ymgynghori ac asesiadau am ddim.

GWASANAETHAU NERS YM MHOWYS

NERS – Atgyfeirio Ymarfer Corff Cyffredinol – ar gyfer y rheiny nad ydynt yn egnïol, y mae ganddynt un neu fwy o anhwylderau cronig, neu sydd wedi cwblhau gwasanaeth NERS Lefel 4
NERS – Adfer Cardiaidd yn y Gymuned Cyfnod IV – ar gyfer y rheiny sydd â hanes Cardiaidd blaenorol.
NERS – Gwasanaeth Gofalu am y Cefn Lefel 4 (Sefydlogrwydd craidd) – ar gyfer y rheiny sydd â symptomau poen yn rhannau isaf y cefn.
NERS – Atal Cwympo Lefel 4 (Cydbwysedd a Chryfder) – Ar gyfer y rheiny y mae ofn cwympo arnynt neu bobl sydd mewn perygl o gwympo.
NERS – Adfer Canser yn y Gymuned Lefel 4 – ar gyfer pobl sydd wedi goroesi canser.
NERS – Adfer Strôc yn y Gymuned Lefel 4 (Cydbwysedd a Chryfder) – ar gyfer y rheiny sydd wedi cael strôc gydag effeithiau niwrolegol
NERS – Iechyd Meddwl Lefel 4 – ar gyfer y rheiny sydd wedi cael diagnosis o faterion iechyd meddwl penodol
NERS – Adfer yr Ysgyfaint Cymunedol – ar gyfer y rheiny gyda chlefyd anadlu sydd wedi cwblhau cwrs o adfer yr ysgyfaint a arweinir mewn clinig.
NERS – Ymarfer a Rheoli Pwysau – ar gyfer y rheiny sydd am wneud newidiadau i’w ffordd o fyw gyda chefnogaeth addysg faethol.
MAE DARPARIAETH LEOL YN AMRYWIO

EICH CANOLFAN AGOSAF SY’N CYNNIG Y GWASANAETHAU:
Mae gweithgareddau NERS ar gael yn y lleoliadau isod:
Canolfan Hamdden Aberhonddu 01874 623677
Canolfan Chwaraeon Tref-y-clawdd 01547 529187
Canolfan Hamdden Maldwyn (Y Drenewydd) 01686 628771
Canolfan Hamdden Rhaeadr Gwy 01597 811013
Canolfan Hamdden y Fflash (Y Trallwng) 01938 555952
Canolfan Hamdden Bro Ddyfi (Machynlleth) 01654 703300
Ystradgynlais 07880786333

SUT MAE CYMRYD RHAN YN Y CYNLLUN? Os ydych dros 16 oed ac yn teimlo y byddai’n gwneud lles i chi siarad â’ch meddyg teulu / Nyrs Practis, neu weithiwr proffesiynol am gael atgyfeiriad – byddan nhw’n llenwi ffurflen atgyfeirio.

The Flash Leisure Centre/Canolfan Hamdden Y Flash, Salop Road, Welshpool, SY21 7DH
07879488361 shelley.jackson@freedom-leisure.co.uk http://www.powys.gov.uk/en/sports-and-leisure/health-schemes-at-your-leisure-centre/

NERS is a Public Health Wales funded scheme aimed at those over 16 years of age who are not used to being regularly physically active and have a medical condition. The scheme is designed to provide opportunities to exercise t...